top of page
CYNGOR CYMUNED LLANDYSILIOGOGO

AMDANOM NI
Cynrychiolir Cymuned Llandysiliogogo gan
11 aelod etholedig.
Fel y digwydd y mae un ohonynt hefyd yn aelod Sirol dros ward Llandysiliogogo a Langrannog. Mae dyletswyddau y Cyngor Cymuned yn eang iawn a’i brif bwrpas ydy sicrhau fod y Gymuned yn cael llais mewn materion sydd yn effeithio ar yr ardal.
Cynhelir cyfarfodydd misol naill yn Neuadd Caerwedros/Talgarreg neu gellir ymuno trwy Zoom.
Cyflogir clerc rhan amser er mwyn delio gyda’r ochr weinyddol a derbynnir praesept blynyddol oddi wrth y Cyngor Sir er mwyn ariannu gwaith y Cyngor.
Mae'r Cyngor Cymuned yn aelod o Un Llais Cymru sef prif sefydliad ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, sy'n darparu llais cryf er mwyn cynrychioli buddiannau'r cynghorau ac amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith.
bottom of page